Rhif y ddeiseb: P-05-1444

Teitl y ddeiseb: Mae gan ferched Gogledd Cymru yr hawl i gael Gwasanaethau/Clinig Menopos yn Ysbyty Gwynedd

Geiriad y ddeiseb: Ni all pawb fforddio teithio i Wrecsam. Ni all pawb fforddio talu'n breifat i fynd i glinig menopos. Nid oes gan bawb yr amser i fynd i Wrecsam. Efallai eu bod yn gofalu am blant ac aelodau o'r teulu ac ati. Dylai pawb gael y dewis. Dylai’r gwasanaeth fod ar garreg ein drws yn Ysbyty Gwynedd a dylid cynnig mwy o wasanaethau arbenigol yn lleol i bobl Gogledd Cymru gan gynnwys rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i feddygon teulu, gynaecolegwyr, ymarferwyr a chyflogwyr ynghylch y menopos a manteision HRT.

Mae’r bwrdd iechyd yn disgwyl i ferched deithio i’r clinig menopos GIG agosaf yn Wrecsam, gan eu bod yn torri’n ôl ar yr ychydig gymorth sydd gennym yn Ysbyty Gwynedd. Nid yw hyn yn dderbyniol, yn enwedig yn yr argyfwng ariannol presennol. Mae angen adnoddau ar garreg ein drws yn lleol i ni; nid yw’r bwrdd iechyd yn bodloni gofynion menywod sy’n dioddef y trafferthion, y gofid, y boen, a’r anghysur ynghyd â’r holl symptomau eraill cysylltiedig â’r menopos a’r effaith ar eu teulu.
Rhaid i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mwy mewn adnoddau a gwasanaethau menopos yng Nghymru.

1.        Cefndir

Mae’r menopos yn rhan naturiol o heneiddio sy'n nodi diwedd blynyddoedd atgenhedlu menyw. Fel arfer mae'n digwydd rhwng 45 a 55 oed, a fel arfer rhoddir diagnosis ar ôl 12 mis heb fislif. Mae'r menopos yn digwydd pan fydd yr ofarïau'n rhoi'r gorau i gynhyrchu hormonau atgenhedlu, yn enwedig estrogen a progesteron. Gall y symptomau cyn menopos, a elwir yn perimenopos, ac ar ôl y menopos, bara am flynyddoedd.

Er gwaethaf cyffredinolrwydd y menopos, mae Cymdeithas Menopos Prydain, Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr a'r Gymdeithas Endocrinoleg yn dweud y bu diffyg cefnogaeth i fenywod sy'n mynd drwy'r cyfnod hwn. Maen nhw'n dweud bod llawer o fenywod yn dweud bod diffyg addysg a diffyg hyfforddiant ar y menopos ymhlith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Mae Triniaeth Deg i Fenywod Cymru yn pwysleisio mai menywod yw 52 y cant o boblogaeth Cymru. Ar ryw adeg yn eu bywydau, bydd y menywod hyn yn profi'r menopos. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn adrodd bod tua 1 o bob 3 menyw naill ai'n mynd drwy’r menopos ar hyn o bryd neu wedi cyrraedd y menopos. 

O ran cael mynediad at wasanaethau ar gyfer y menopos yng Nghymru, mae'r rhan fwyaf o fenywod yng Nghymru yn cael cyngor am symptomau sy'n gysylltiedig â menopos, gan gynnwys presgripsiynau Therapi Adfer Hormonau (HRT), gan wasanaethau gofal sylfaenol. Mae menywod â symptomau sy'n gysylltiedig â’r menopos yn cael eu gweld mewn gofal eilaidd mewn clinigau gynecoleg cyffredinol. Mae clinigau menopos arbenigol hefyd ar gael mewn rhai ardaloedd i weld menywod â materion mwy cymhleth sy'n gysylltiedig â'r menopos, heb fod angen atgyfeiriad i ofal eilaidd. Mae'r rhain yn cael eu rhedeg gan arbenigwyr menopos.

Mentrau Llywodraeth Cymru ar y menopos

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio ar nifer o fentrau i wella gofal a chymorth menopos ledled Cymru, gan gynnwys:

Darpariaeth Menopos Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Ym mis Gorffennaf 2023, lansiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Gaffi Menopos. Mae'r fenter hon yn cynnwys sesiynau rhithwir ac wyneb yn wyneb i staff drafod materion sy'n ymwneud â'r menopos. Nod y sesiynau hyn yw darparu cefnogaeth a chodi ymwybyddiaeth yn y gweithle.

2.     Camau gan Lywodraeth Cymru

Rhoddodd Llywodraeth Cymru ymateb i'r Ddeiseb ar 3 Gorffennaf 2024, gan ddweud ei bod yn cydnabod bod gwelliannau i'w gwneud mewn gofal, triniaeth a chymorth menopos a mwy o gysondeb yn y gwasanaethau hynny ledled Cymru.

Mae’r ymateb yn cyfeirio at gynllun iechyd menywod 10 mlynedd GIG Cymru sy’n cael ei ddatblygu i gyflawni’r uchelgeisiau a nodwyd yn natganiad ansawdd Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd menywod a merched. Mae rhagor o fanylion am y cynllun ar gael yn yr erthygl hon gan wasanaeth Ymchwil y Senedd, Anghenion iechyd menywod a sicrhau tegwch: diffyg cynllun pwrpasol’.

Mae Llywodraeth Cymru yn egluro y bydd yr argymhellion a wnaed gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen Menopos Cymru Gyfan yn eu hadroddiad terfynol yn cael eu datblygu fel rhan o'r Cynllun Iechyd Menywod. Bwriedir i Gynllun Iechyd Menywod Cymru gael ei gyhoeddi erbyn mis Rhagfyr 2024.

Yn benodol mewn perthynas â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, mae’r ymateb yn nodi fel a ganlyn:

All gynaecology consultants across the three hospital sites in North Wales see women with menopause-related symptoms in their general gynaecology clinics.

Specialist menopause clinics are run by the three menopause specialists and they see people with more complex menopause-related issues, such as multiple treatment failures, primary ovarian insufficiency, complex medical problems, high-risk cancer genes or hormone dependent cancer and testosterone initiation. These clinics are based at Deeside and Wrexham Maelor Hospital. A mix of face-to-face and virtual slots are available based on patient choice. This is in addition to e-advice for women via their GP practice. [EE1] 


3.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Mae cwestiynau wedi cael eu gofyn yn y Senedd am y menopos. Er enghraifft, 

§  Rhannodd Laura Anne Jones AS o’r Ceidwadwyr ei phrofiad personol o'r menopos ym mis Mai 2024. Galwodd ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwell cymorth cyflogaeth ar gael i fenywod sy'n mynd drwy’r menopos.

§  Gofynnodd yr AS Llafur Vikki Howells i Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd ar y pryd, am gefnogaeth i fenywod yng Nghymru sy'n profi'r menopos ym mis Mehefin 2021. Ymatebodd Eluned Morgan AS gan ddweud bod "Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn ag iechyd menywod, gan gynnwys materion yn ymwneud â'r menopos, ac yn disgwyl i bob bwrdd iechyd ddarparu ystod lawn o wasanaethau i fenywod sy'n profi'r menopos yn unol â chanllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal".  

Ar ben hynny, mae’r Senedd wedi bod yn rhagweithiol o ran mynd i’r afael â materion yn ymwneud â’r menopos. Ar Ddiwrnod Menopos y Byd, cyhoeddodd y Senedd ei bod bellach yn un o sefydliadau mwyaf blaenllaw y DU o ran cefnogi staff sy'n mynd drwy’r menopos. Comisiwn y Senedd oedd y sefydliad cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu canllawiau’r Sefydliad Safonau Prydeinig (BSI) ar y menopos a’r mislif.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.

 

 


 [EE1]I can’t find a Welsh version of this quote/response - is there one available?